Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt

Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc Gan Huw Jones, Glanconwy

Ffion Mair Jones

ISBN: 9781783160792

eBook Download

(ePub)

£6.99

Disgrifiad

Dyma olygiad o anterliwt gan Huw Jones, Glanconwy, o gyfnod cythryblus y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddwyd y testun ym 1798, ond ni chafodd unrhyw sylw gan ysgolheigion yr anterliwt yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac mae’r golygiad hwn yn dwyn drama newydd sbon i’r amlwg mewn anterliwt sy’n adrodd hanes cwymp brenin a brenhines Pabyddol ac unbeniaethol Ffrainc. Ynghyd a’r golygiad o’r anterliwt, cyflwynir yn y gyfrol destun rhai o faledi a cherddi Huw Jones, i ddwyn bardd na chafodd fawr sylw hyd yma i olwg y cyhoedd unwaith eto.