
Y Gelfyddyd Gymodlawn
T. Gwynn Jones a Cherddoriaeth
Elen Ifan
ISBN: 9781837723324
Paperback
£19.99
51 in stock
Disgrifiad
Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â gwaith T. Gwynn Jones (1871–1949), un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio’n benodol ar berthynas ei waith â cherddoriaeth. Roedd T. Gwynn Jones yn fardd dylanwadol a thoreithiog, a derbyniodd gryn sylw beirniadol a bywgraffyddol – ond dyma’r drafodaeth gyntaf ar ei waith mewn cyd-destun cerddorol. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae’r llyfr yn gyflwyniad cyffrous i astudiaethau cerddo-lenyddol. Mae’n craffu ar ddylanwad cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones: cefndir cerddorol rhai o gerddi Caniadau; y rhai cannoedd o gyfieithiadau o eiriau caneuon; ymwneud y bardd â cherddoriaeth draddodiadol; a’r cydweithio helaeth fu rhyngddo a W. S. Gwynn Williams, sylfaenydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, ac yn cynnig gwedd gwbl newydd ar waith bardd cyfarwydd.
