Catrin o Ferain
Mam Cymru
Helen Williams-Ellis
ISBN: 9781837723454
Paperback
£25.00
Out of stock
Disgrifiad
Ganed Catrin o Ferain yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1535, mewn cyfnod hanesyddol gythryblus. Bu’n rhaid iddi droedio’n gyfrwys ac yn ofalus gydol ei hoes. Yn aeres gyfoethog o’i chrud i’w bedd, priododd yn dda, a’i blaenoriaeth oedd gwarchod ei hetifeddiaeth. Gyda’i hail ŵr Rhisiart Clwch, teithiodd Catrin yn helaeth ar draws cyfandir Ewrop, ac fe baentiwyd y darlun enwog ohoni pan oedd yn Antwerp. Bu’n weddw dair gwaith, ond tristwch mwyaf ei bywyd oedd y cyhuddiad yn erbyn ei mab hynaf o fod yn fradwr, a’i farwolaeth erchyll ar grocbren Tyburn ym 1587. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Catrin hithau wedi ei chladdu. Mae’r gyfrol hon yn torri tir newydd wrth gyplysu tystiolaeth weledol y cyfnod modern cynnar gyda barddoniaeth beirdd yr uchelwyr. Defnyddiodd Catrin y gyfundrefn farddol i hyrwyddo ei henw da, a dadlennol a difyr yw’r dyfyniadau sy’n britho’r cofiant, a rhyfeddol yw’r dystiolaeth sy’n dangos y cyfeillgarwch dwfn rhyngddi â’r bardd Wiliam Cynwal.

